Unique Welsh hampers and gifts for foodies | Bodlon, Carmarthen, Carmarthenshire, Wales

Corfforedig

Gall Bodlon ddarparu gwasanaeth personol ar gyfer cwsmeriaid preifat a chwsmeriaid corfforaethol. Rydym yn ymroi i ddarparu rhoddion sydd y tu hwnt i bob disgwyl o ran ansawdd, gwreiddioldeb, a chyflwyniad. Rydym yn rhoi sylw manwl i ddelwedd a steil.Beth bynnag fo'r achlysur, boed yn rhodd i staff er mwyn dathlu bargen/cytundeb newydd, annogaeth neu gymhelliad i gyrraedd targedau/dyddiadau cau, diolch am ymroddiad, diolch i gwsmeriaid am gefnogaeth drwy'r flwyddyn, neu ddathlu degawd o fod mewn busnes a.y.y.b, gallwn gynnig dewis amrywiol o gynwysyddion a chynnwys sy'n addas ar gyfer yr achlysur.

Mae ein hamrywiaeth eang o gynwysyddion o ansawdd da y gellir eu hail-ddefynyddio. Maent yn cynnwys bocsys rhoddion, hambyrddau pren, cewyll a chrâtiau storio, bagiau oer, a basgedi trendi. Gallwn addurno'r cynwysyddion â phapur sidan lliw a rasl neu ruban, sy'n cyd-fynd â'r thema.Gallwn addasu'ch rhoddion corfforaethol drwy gynnwys logo eich cwmni, eich neges, a'ch lliwiau corfforaethol. Gallwn hefyd gynnwys cerdyn cyfarch corfforaethol, dogfennau eich cwmni a cherdyn busnes gyda phob rhodd.

Rhoddir gostyngiad pris ar archebion mawr, neu os yw'r cyfan i fynd i'r un cyfeiriad.

Noder fod angen blaen rybudd o 30+ o ddyddiau ar gyfer rhoddion wedi eu haddasu.

01558 668 877
info@bodlon.com