Amodau a thelerau
Nid yw unrhyw ran o'r amodau a thelerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel cwsmer.
Prisio a thalu
Rydym yn derbyn taliad drwy siec bersonol, archeb bost neu gerdyn Visa, Delta, Mastercard a Switch. Bydd pob taliad drwy gerdyn yn cael ei weithredu ar ein rhan drwy Paypal. Pan fyddwch yn dewis talu drwy ddefnyddio cerdyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at wefan ddiogel Paypal cyn i chi nodi unrhyw fanylion y carden. Mae diogelwch yn bwysig iawn i ni.
Gwasanaeth Cwsmer
Gellir cysylltu â Bodlon yn ystod oriau gwaith arferol (9.30am—6.00pm dydd Llun i ddydd Gwener). Gweler ein tudalen cysylltu â ni er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Canslo neu ddychwelyd archeb
Yn unol â Rheoliadau Gwerthu dros Bellter y Deyrnas Unedig, mae gennych yr hawl i ganslo'r cytundeb ar gyfer prynu unrhyw eitem o fewn saith diwrnod o'i dderbyn. Ac eithrio lle byddwn yn nodi'n wahanol, rhaid dychwelyd y nwyddau i'r lleoliad anfon o fewn cyfnod o amser rhesymol o ganslo'r archeb.
Eithriadau
Rhaid canslo bwyd a nwyddau byrhoedlog cyn i ni eu dosbarthu.
Yn unol â chyfraith y DU a'r UE, mae gennych yr hawl i newid eich meddwl am archeb a wnaed dros y rhyngrwyd yn unol â'r amodau uchod. Ac eithrio lle nodir yn wahanol, neu oni bai fod nam ar y nwyddau, neu fod y nwyddau sydd wedi eu darparu fel ail i'ch archeb, bydd gofyn i chi i dalu'r cost am eu dychwelyd atom ni — cadwch brawf postio o'ch eitemau.
Os ydych yn dymuno canslo archeb, a fyddech cystal â'n hysbysu ni cyn gynted a bod modd gan ein bod ond yn gallu canslo archeb os nad yw wedi ei anfon.
Stoc
Bydd unrhyw nwyddau yn parhau i fod yn berchen i Bodlon nes bydd yr holl daliadau wedi eu cwblhau.
Noder fod yr holl nwyddau a'u disgrifiadau yn gywir adeg cyhoeddi, er hyn, bydd yna achlysuron prin pan fydd yr eitemau allan o stoc. Yn yr achos
hwn, rydym yn cadw'r hawl i ddarparu nwyddau o'r un gwerth, neu werth uwch os bydd unrhyw nwyddau ddim ar gael ar ddyddiad yr archeb.