bodlon, rhoddion unigryw Cymreig i bobl sy'n caru bwyd
* hafan       amdanom ni       cynhyrchion       corfforedig       newyddion       cysylltwch â ni       english


*

Corfforedig

 

Hamperi o'ch dewis chi

* Rydych chi yn: Corfforedig


Corfforedig



Gall Bodlon ddarparu gwasanaeth personol ar gyfer cwsmeriaid preifat a chwsmeriaid corfforaethol. Rydym yn ymroi i ddarparu rhoddion sydd y tu hwnt i bob disgwyl o ran ansawdd, gwreiddioldeb, a chyflwyniad. Rydym yn rhoi sylw manwl i ddelwedd a steil.

 

Beth bynnag fo'r achlysur, boed yn rhodd i staff er mwyn dathlu bargen/cytundeb newydd, annogaeth neu gymhelliad i gyrraedd targedau/dyddiadau cau, diolch am ymroddiad, diolch i gwsmeriaid am gefnogaeth drwy'r flwyddyn, neu ddathlu degawd o fod mewn busnes a.y.y.b, gallwn gynnig dewis amrywiol o gynwysyddion a chynnwys sy'n addas ar gyfer yr achlysur.

 

Mae ein hamrywiaeth eang o gynwysyddion o ansawdd da y gellir eu hail-ddefynyddio. Maent yn cynnwys bocsys rhoddion, hambyrddau pren, cewyll a chrâtiau storio, bagiau oer, a basgedi trendi. Gallwn addurno'r cynwysyddion â phapur sidan lliw a rasl neu ruban, sy'n cyd-fynd â'r thema.

 

Gallwn addasu'ch rhoddion corfforaethol drwy gynnwys logo eich cwmni, eich neges, a'ch lliwiau corfforaethol. Gallwn hefyd gynnwys cerdyn cyfarch corfforaethol, dogfennau eich cwmni a cherdyn busnes gyda phob rhodd.

 

Rhoddir gostyngiad pris ar archebion mawr, neu os yw'r cyfan i fynd i'r un cyfeiriad.

 

Noder fod angen blaen rybudd o 30+ o ddyddiau ar gyfer rhoddion wedi eu haddasu.

*
Tysteb
Get in touch!
*

Cysylltwch â ni


01558 668 877
info@bodlon.com

* Cysylltwch â ni
*

Rhestr bostio


Ymunwch â rhestr bostio Bodlon er mwyn derbyn newyddion cyson.
Cliciwch yma i ymuno heddiw

* Rhestr bostio
* Yn ôl i'r brig

click here to return to homepage