Rydych chi yn: Amdanom ni
Proffil y Cwmni
Mae Bodlon yn gwmni newydd sy'n cynnig rhoddion unigryw o fwyd a diod safonol wedi'u pecynnu'n fodern, yn lliwgar ac yn gyffrous i gwmnïau ac unigolion.
Mae hamperi Bodlon yn cael eu creu mewn hen ysgoldy Fictorianaidd yn Llanarthne ger Caerfyrddin. Ein nôd yw cyflwyno bwydydd safonol o Gymru i gynulleidfa ryngwladol. Mae ein hamperi yn wahanol iawn i rai o'r hamperi fwy traddodiadol sy'n anelu at y farchnad dwristiaidd. Mae hamperi Bodlon yn adlewyrchu ysbryd y Gymru gyfoes.
Bodlon
bwriad y cwmni yw plesio a gwneud yn siwr bod y cwsmer yn fwy na bodlon.
|